Derbyniadau

O dan yr amgylchiadau arferol, bydd disgyblion o'r Ysgolion Cynradd a restrir isod yn trosglwyddo i Ysgol Dyffryn Aman 11+ oed: 
Ysgol Bro Banw, Ysgol Y Bedol, Ysgol Gymraeg Rhydaman, Llanedi, Betws, Parcyrhun, Brynaman, Saron a Tycroes.  

Yn y blynyddoedd diwethaf mae dalgylch Ysgol Dyffryn Aman wedi'i ymestyn i gynnwys dalgylch:
Ysgolion Cynradd Cefneithin, Cross Hands, Llechyfedach, Llannon, Y Tymbl, Drefach, Pontyberem, Bancffosfelen, Gwynfryn, Pont-henri, Pontiets a Chaerwe, i'r rhai sy'n chwilio am addysg ddwyieithog Catergory 2B. 

Y niferoedd derbyn ar gyfer yr Ysgol yw 280 y flwyddyn. Mae gennym hefyd nifer o leoliadau dewisol o ysgolion eraill. 

Gwahoddir rhieni / gwarcheidwaid disgyblion sy'n ystyried dod i Ysgol Dyffryn Aman i fynychu Nosweithiau Agored yn ystod mis Medi. Bydd disgyblion sy'n dechrau yn yr ysgol ym mis Medi yn ymweld â'r ysgol tua diwedd Tymor yr Haf.

Ar gyfer Blynyddoedd 7 - 11, yr Adran Dderbyniadau yng Nghyngor Sir Caerfyrddin sy'n ymdrin â derbyniadau.

Mae Polisi Derbyn Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ei seilio ar gyfeiriad cartref y disgybl, nid yr ysgol gynradd a fynychwyd. Gellir cysylltu a'r Adran Dderbyn drwy ffonio 01267 234567 lle y gallwch siarad gyda aelod o staff neu trwy e-bost admissions@carmarthenshire.gov.uk

Gellir cael gwybodaeth bellach am y broses dderbyn a thrafnidiaeth ysgol trwy bwyso ar y ddolen isod.

Mae manylion pellach am bolisi derbyniadau ysgolion yr ysgol a'r polisi cludiant ysgol ar gael yn yr adran ‘Addysg ac Ysgolion’ ar wefan y Cyngor Sir. 
Llyfryn gwybodaeth i rieni

Derbyniadau Chweched Dosbarth

Am dderbyniadau i'r Chweched Dosbarth, cysylltwch â'r Pennaeth yn uniongyrchol.

Scroll to Top