Yr Ap Rhieni Newydd – mynediad hwylus i wybodaeth pwysig wrt h yr ysgol
Mae gennym ddull cyfleus i rannu gwybodaeth gyda chi ynglyn a bywyd eich plentyn yn yr ysgol. O Ddydd Gwener 11eg o Hydref, bydd modd i chi gael mynediad i'n ap newydd yn ogystal a mynediad drwy gwefan.
Bydd mynediad i chi i’r system drwy ffôn symudol clyfar, tabled neu gyfrifiadur ar unrhyw adeg o unrhyw fan.
Beth fydd ar gael i chi yn yr ap:
Gwybodaeth pwysig fel ymddygiad, presenoldeb, llwyddiant a gwaith cartref.
Dyddiadau’r tymor, dyddiadau HMS, a manylion cyswllt ar glic botwm.
Mynediad i adroddiad eich plentyn
Derbyn hysbysiadau i’ch atgoffa am wybodaeth pwysig, e.e. dyddiadau allweddol i’ch dyddiadur
Mynediad i ddiweddaru manylion cyswllt fel bod gennym y wybodaeth mwyaf cyfredol mewn adeg o argyfwng
Os oes gennych mwy nag un plentyn yn yr ysgol bydd yna fynediad gennych i bob plentyn drwy’r ap.
Mae’r wybodaeth byddwch yn derbyn drwy’r ap yn eich galluogi i fod yn ymwybodol o fywyd eich plentyn yn yr ysgol, yn ogystal a chefnogi cynnydd a datblygiad eich plentyn.
Cychwyn gyda Ap Rhieni SIMS
Byddwn yn anfon e-bost actifadu i chi, cliciwch ar y linc yn yr e-bost o’ch tabled, ffôn neu gyfrifiadur i actifadu’r cyfrif.
Mae modd i chi fewngofnodi drwy ddefnyddio enw defnyddiwr a chyfrinair Facebook, Twitter, Google, neu Microsoft.
O’ch ffon symudol clyfar neu dabled gallwch lawrlwytho’r ap o ‘Google Play’ neu ‘App Store’ - chwiliwch am SIMS Parent.
O gyfrifiadur neu ffôn bydd angen i chi fewngofnodi ar-lein o www.sims-parent.co.uk www.sims-parent.co.uk