Amser cinio mae system gaffi ar gael i ddisgyblion. Darperir amrywiaeth eang o fwydydd iach i weddu i bob blas. Gellir prynu pryd bwyd poeth ‘dyddiol arbennig’.
Mae byrbrydau hefyd ar gael amser egwyl.
Defnyddir system arlwyo biometrig heb arian parod yn Ysgol Dyffryn Aman i dalu am fyrbrydau a phrydau bwyd. Gellir sefydlu neu drosglwyddo cyfrifon ParentPay o'r ysgol gynradd.
Cynigir ystod eang o weithgareddau allgyrsiol yn ystod amser cinio.
Rhaid i bob disgybl ym Mlynyddoedd 7, 8, 9 a 10 aros ar y safle yn ystod amser egwyl a chinio.