Pleser yw eich croesawu i wefan Ysgol Dyffryn Aman. Gobeithiaf yn fawr y cewch yma drosolwg o’r hyn a gynigir gan yr ysgol, yn ogystal â gwybodaeth am systemau a pholisïau’r ysgol. Os oes angen gwybodaeth benodol arnoch, mae croeso i chi godi’r ffôn i gael gair uniongyrchol gyda fi ar unrhyw adeg.
Mae’r gymuned ddysgu yn Ysgol Dyffryn Aman yn un effeithiol, amrywiol a chynhwysiol. Un o’n cryfderau yw’r cwricwlwm eang a ddarperir yma. Mae’r gefnogaeth ofalgar a’r cyngor arbenigol a roddir i bob unigolyn wrth ei gosod ar ei llwybr dysgu unigol yn medru hwyluso dyfodol llwyddiannus a llewyrchus i bob yr un ohonynt.
“ Parched pob byw ei orchwyl” yw arwyddair yr ysgol. Credwn, trwy waith caled ac ymdrech barhaus, y gall pob unigolyn gyrraedd ei lawn botensial. Ymrwymwn fel ysgol i greu awyrgylch ysgogol a heriol a fydd yn darparu’r cyfleoedd gorau er mwyn galluogi ein disgyblion i ffynnu. Mae gwaith tîm yn allweddol er mwyn gwneud hyn. Ceisiwn sicrhau bod ein disgyblion yn ennill y medrau, y wybodaeth a’r hyder i weithio’n annibynnol, yn ogystal â’r sgiliau i gyd-weithio ag eraill er mwyn eu paratoi ar gyfer tyfu’n ddinasyddion parchus ac effeithiol.
Rhaid gosod disgwyliadau uchel i’n hunain. Yn anorfod felly, rhaid i bob un sy’n ymddiddori yn nyfodol ein disgyblion chwarae eu rhan. Trwy gyd-weithio gyda’n gilydd – fel ysgol, rhieni, llywodraethwyr, awdurdod a chymuned ehangach, gallwn anelu at y nôd o ddarparu’r addysg orau i’n disgyblion, a chynnig iddynt y gefnogaeth fugeiliol a moesol a fydd yn eu cynnal a’u hysbrydoli gydol eu hoes.
Mae’n bwysig bod pob disgybl yn gwneud yn fawr o bob cyfle gan ymrwymo i fod yn lysgenhadon gwych i’r ysgol a’r gymuned – boed ar y maes chwaraeon, ar lwyfan perfformio, ym myd gwyddoniaeth a thechnoleg, neu wrth gwrs, ar lawr yr ystafell ddosbarth. Cefnogwn ddatblygiad personol pob disgybl gan eu hymarfogi â’r wybodaeth, sgiliau a’r gwerthoedd i’w galluogi i gamu’n hyderus i’r dyfodol.