Saint Dwynwen’s Day / Dydd Santes Dwynwen

Dydd Santes Dwynwen, ar Ionawr 25ain, yw diwrnod cariad Cymru. Fe'i henwir ar ôl Santes Dwynwen, nawddsant cariadon yng Nghymru, ac mae'n amser i ddathlu caredigrwydd, cyfeillgarwch a chariad. Cafodd ein disgyblion gyfle i ddysgu am hanes y diwrnod yn ystod sesiwn fugeiliol ac yna trafod eu meddyliau ar ddathlu diwylliant a thraddodiadau Cymru. Derbyniwyd cannoedd o geisiadau ar gyfer y gystadleuaeth 'dylunio cerdyn Santes Dwynwen' a gynhaliwyd gan ein Mentrau Iaith lleol. Bydd Maer Caerfyrddin a Chynghorwyr y Dref yn beirniadu'r cardiau. Pob lwc i bawb!
Saint Dwynwen’s Day, which is celebrated on January 25th, is the Welsh day of love. It is named after Saint Dwynwen, the patron saint of lovers in Wales, and is a time to celebrate kindness, friendship, and love. Pupils were given the opportunity to learn about the history of the day during a pastoral session and then discussed their thoughts on celebrating Welsh culture and traditions. Hundreds of entries were received for the 'design a Santes Dwynwen card' competition run by our local Mentrau Iaith. The cards will be judged by the Mayor of Carmarthen and the Town Councillors. Good luck to all!



Social Media