Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipiscing elit. Ut elit tellus, luctus nec ullamcorper mattis, pulvinar dapibus leo.
17/10/2025
Llythyr er gwybodaeth
Annwyl riant/gwarcheidwad
Rwy’n ysgrifennu i rannu rhagor o wybodaeth gyda chi am fy mhenderfyniad i roi’r ysgol mewn ‘clo rhannol’ y prynhawn yma. Cafodd hyn ei wneud er mwyn ymateb i wybodaeth dderbynion ni’n gynharach heddiw, ac fe ddilynwyd y camau canlynol:
• Dywedwyd wrth yr holl staff a disgyblion fod yr ysgol yn mynd i ‘glo rhannol’
• Clowyd y drysau allanol gennym yn ystod gwersi
• Parhaodd y dysgu a’r addysgu fel arfer
• Bu’r staff yn goruchwylio’r coridorau a pherimedr y safle
• Anfonwyd neges ar ClassCharts at bob rhiant yn dweud bod yr ysgol wedi mynd i ‘glo rhannol’ a bod yr holl ddisgyblion a staff yn ddiogel
Mae’r clo rhannol bellach wedi’i godi, gan fod yr heddlu wedi rhoi gwybod i’r ysgol fod y risg oedd yn gysylltiedig â’r digwyddiad hwn nawr ar ben. Bydd y disgyblion i gyd yn gallu teithio adref yn y modd arferol.
Bydd yr ysgol ar agor fel arfer ddydd Llun.
Mae’n siwr bod gan rai ohonoch gwestiynau neu bryderon pam roeddwn i’n teimlo bod angen clo rhannol. Er na fyddai’n briodol rhannu manylion penodol gyda chi ar hyn o bryd, beth allaf i ddweud yw bod negeseuon bygythiol/bygythiadau wedi eu gwneud gan berson ifanc, nad yw yn Ysgol Dyffryn Aman, ynglŷn â disgybl penodol yn ein hysgol. Roedd y negeseuon bygythiol/bygythiadau hyn yn cael eu hystyried yn ddigon credadwy i roi mesurau clo rhannol ar waith, ac fe wnaeth yr ysgol a Heddlu Dyfed-Powys ddelio â nhw’n effeithiol ac yn gyflym. Mae’r Heddlu bellach yn cynnal eu hymchwiliad.
Mae gan Ysgol Dyffryn Aman bolisïau a gweithdrefnau ar waith sydd wedi’u cynllunio i gadw cymuned yr ysgol gyfan yn ddiogel, ac mae digwyddiad heddiw wedi profi bod y polisïau hyn yn gweithio’n dda iawn.
Os bydd angen cymorth lles ar unrhyw ddisgybl, gall hyn gael ei drefnu drwy’r Pennaeth Blwyddyn a’n Swyddogion Bugeiliol.
Rwyf hefyd am ddiolch yn ddiffuant am ymddygiad digynnwrf a hynod broffesiynol ein staff drwy gydol y broses, ynghyd ag ymddygiad aeddfed a pharchus ein disgyblion. Dyma enghraifft arall o’n cryfder fel cymuned ysgol, a’r cyfan o fewn Teulu Ysgol Dyffryn Aman. A gaf i hefyd ddiolch i chi fel rhieni am beidio â chysylltu â’r ysgol ar ôl derbyn fy neges ar ClassCharts ynglŷn â’r clo rhannol. Mae eich ymddiriedaeth ynom ni i’w ganmol.
Yn gywir,
Mr James Durbridge
Pennaeth
17/10/2025
Letter for your Information
Dear parent/guardian
I am writing to share more information with you regarding my decision to place the school into a state of partial lockdown this afternoon. This precautionary measure was in response to information we received earlier today, and the following steps were taken:
- All staff and pupils were notified that the school was going to ‘partial lockdown’
- We locked the external doors during lessons
- Teaching and learning continued as normal
- Staff supervised corridors and the site perimeter
- A message was sent on ClassCharts to all parents noting that the school was in ‘partial lockdown’ and that all pupils and staff were safe
The partial lockdown has now been lifted, as police have informed the school that the risk associated with this incident has now passed. All pupils will travel home by normal routes.
The school will be open as normal on Monday.
I imagine many of you may have some questions or concerns regarding why I felt it necessary to go into partial lockdown. Whilst it wouldn’t be appropriate to share specific details with you at this point, what I can say is that a threatening message/threats were made, by a young person not at Ysgol Dyffryn Aman, regarding a specific pupil at our school. The parents of this pupil were made aware of the threats and are fully supportive and grateful of the school’s responsive action. This information was deemed sufficient to trigger a partial lockdown response and the issue dealt with effectively and quickly by the school and Dyfed Powys Police. The Police are now carrying out their investigation.
Ysgol Dyffryn Aman has policies and procedures in place that are designed to keep the whole school community safe and today’s incident proved that that these policies work very well.
If any pupil needs welfare support, this can be arranged through their Head of Year and our Pastoral Officers.
I also wish to extend a sincere and heartfelt word of thanks for the very calm and highly professional behaviour that our staff displayed throughout the process, along with the mature and respectful behaviour of our pupils. This was yet again another example of our strength as a school community and all within TeuluYDA. Can I also thank you as parents for not contacting the school after receiving my message on ClassCharts regarding the partial lockdown notice. Your trust in us is commendable.
Yours sincerely,
Mr James Durbridge
Headteacher
Headteacher
