Images protected by Greenhouse School Websites
Quick Links

Quick Links Open/Close

Ysgol Dyffryn Aman

  • Search this websiteSearch Site
  • Instagram Instagram
  • Translate the contents of this page Translate Page
  • Facebook Facebook
Cymraeg English
Strip

Y Siarter Iaith

×

Y Siarter Iaith

Mae’r Siarter Iaith yn gynllun cenedlaethol sy’n cyfrannu at yr ymdrech i gyrraedd targedau Cymraeg 2050, drwy anelu at ysbrydoli plant a phobl ifanc i ddefnyddio a mwynhau’r Gymraeg ym mhob agwedd o’u bywydau – tu mewn a thu allan i’r ysgol.

Bydd hyn yn cael effaith bositif ar ddisgyblion, nid yn unig ar fywyd yr ysgol, ond hefyd wrth iddynt sylweddoli pwysigrwydd y Gymraeg o ran cyfleoedd gwaith yn y dyfodol, ynghyd â’u hunaniaeth ddiwylliannol a’u treftadaeth.

Gweledigaeth Ysgol Dyffryn Aman

Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni gyd yn Ysgol Dyffryn Aman – boed yn ddisgyblion, athrawon, staff atodol, llywodraethwyr, rhieni, neu’n rhan o’r gymuned ehangach. Mae gennym ni gyd gyfrifoldeb dros ein dyfodol ac, gyda’n gilydd, gallwn sicrhau ein bod yn cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg gan ein pobl ifanc.

Ein bwriad yw sicrhau:

  • Ethos Cymreig cadarn ym mhob agwedd ar fywyd yr ysgol, fel bod pawb yn mwynhau siarad Cymraeg ac yn dathlu llwyddiant.
  • Cydweithrediad agos rhwng holl randdeiliaid yr ysgol i hyrwyddo’r Gymraeg a gweithredu’r Siarter Iaith.

Llwyddiant a'r Camau Nesaf

Ceir tair gwobr fel rhan o’r Siarter: Efydd, Arian ac Aur.

Rydym yn hynod o falch mai ein hysgol oedd un o’r rhai cyntaf yn Sir Gaerfyrddin i dderbyn y Wobr Efydd ym mis Rhagfyr 2025. Mae 'Cewri Cymreictod' yr ysgol bellach yn gyrru ein hymdrechion yn ddyfal er mwyn ennill y Wobr Arian yn y dyfodol agos.


Aelodau o’r Cewri Cymreictod gyda gwobr efydd y Siarter Iaith

Strip Strip ↑